Neidio i’r cynnwys

Rydyn ni'n rhoi ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud. Mae hynny'n golygu bod yma pan fyddwch ein hangen fwyaf, a rhoi cymorth, cyngor a chefnogaeth i chi.

Balansau credyd

Mae ein holl filiau yn cynnwys y balans cyfredol ar eich cyfrif. Os yw'ch cyfrif mewn credyd, gallwch gysylltu â ni a gofyn i'r balans credyd hwn gael ei ad-dalu i chi. Byddai angen i chi wneud cais am y balans credyd cyn i'ch bil nesaf gael ei gyflwyno.

Ôl-filio

Byddwn bob amser yn ymdrechu i gysylltu â chi cyn i ni "ôl-filio". Mae ôl-filio fel arfer yn digwydd pan fo mesurydd wedi torri ac mae angen ei ailosod, pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ffioedd ac os oes angen, yn trafod dulliau ad-dalu. Ni fyddem fel arfer yn ôl-filio mwy nag 16 mis.

Ail gyfrifo taliadau gan y cyfanwerthwr

Mewn achosion lle mae cyfanwerthwyr yn ail gyfrifo taliadau, mae'n rhaid i ni drosglwyddo'r taliad hwn i'n cwsmeriaid yn yr un gyfran ag y mae'r ail gyfrifo wedi effeithio ar eich bil. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn darparu esboniad llawn o'r ffioedd hyn.

Contact the Business Customer Team

If you are an open water customer you can contact us here.

0800 260 5051

8:00am - 6:00pm Mon-Fri
Out of hours: 0800 260 5053

Opsiynau cyswllt eraill