Neidio i’r cynnwys

Taliadau Anfesuredig


Os nad oes gennych fesurydd dŵr, byddwch yn talu cost sefydlog bob blwyddyn yn seiliedig ar eich eiddo. Ar y dudalen hon byddwn yn egluro sut caiff eich bil ei gyfrifo ac yn rhoi gwybodaeth i chi am y taliadau.

Sut caiff fy mil ei gyfrifo?

Mae'r swm rydym yn ei godi yn wahanol ar gyfer pob safle. Rydym yn bilio o 1 Ebrill i 31 Mawrth, neu o'r dyddiad y symudoch i mewn hyd at 31 Mawrth os symudoch chi’n ddiweddar. Mae cyfradd sefydlog ar gyfer y flwyddyn yn seiliedig ar:

  • Faint y safle
  • Cyfleusterau lleol
  • Lleoliad y safle
  • Cyflwr cyffredinol

Nid ydym yn eich bilio am faint o ddŵr rydych chi'n ei ddefnyddio, na nifer y bobl sy’n gweithio yn eich busnes. Os byddai'n well gennych gael eich bilio am faint o ddŵr rydych chi'n ei ddefnyddio, gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell i amcangyfrif eich defnydd a'ch taliadau ac yna gwneud cais am fesurydd ar-lein.

Taliadau Anfesuredig ar Gyfer Eiddo Nad yw’n Gartref

Mae biliau anfesuredig yn cael eu hanfon unwaith y flwyddyn ac yn dod mewn un o ddau fformat, naill ai:

Tâl Gwerth Ardrethol - bydd y bil yn cynnwys tâl sefydlog ynghyd â thâl fesul punt (£) o werth ardrethol ar gyfer y safle

neu

Dâl Gwasanaeth Unffurf (ar gyfer eiddo a adeiladwyd rhwng 1 Ebrill 1990 a 31 Mawrth 2000) - mae'r taliadau'n seiliedig ar werth ardrethol cyfartalog safleoedd yng Nghymru.

Ein 2026-2027 costau yw:

Gwasanaethau Dŵr Anfesuredig £
Tâl sefydlog 145.72
Tâl yn seiliedig ar werth ardrethol - fesul punt o werth ardrethol 1.5283
Tâl Gwasanaeth Unffurf 344.40
Taliadau Carthffosiaeth Anfesuredig £
Tâl Sefydlog 262.02
Tâl sefydlog – dŵr budr yn unig 125.11
Tâl yn seiliedig ar werth ardrethol - fesul punt o werth ardrethol 2.7666
Tâl Gwasanaeth Unffurf 621.68
Tâl Gwasanaeth Unffurf – dŵr budr yn unig  484.77
Dŵr Wyneb yn unig - yn cynnwys draenio priffyrdd  206.11

Mae’r holl daliadau o 1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2027. Gosodir yr holl gostau gan Ofwat, rheoleiddiwr y diwydiant dŵr. I gael rhagor o wybodaeth am ein costau defnyddio presennol, cyfeiriwch at ein crynodeb o gostau cartref:

Os ydych chi’n derbyn eich gwasanaethau carthffosiaeth gan Hafren Dyfrdwy, gweler eich taliadau yma.

Os ydych chi’n derbyn eich gwasanaethau carthffosiaeth gan Severn Trent, gweler eich taliadau yma.

Oes angen cymorth arnoch i dalu’ch bil dŵr?