Archwiliadau o brosesau
Rydym ni’n gwybod y bydd cymryd camau i leihau gwastraff dŵr yn eich busnes yn helpu i dorri eich gorbenion trwy leihau eich biliau dŵr ac ynni. Mae hefyd yn lleihau eich ôl-troed carbon ac yn llawer gwell i’r amgylchedd.
Os ydych chi'n defnyddio dŵr mewn proses gweithgynhyrchu, yna gallai ein harchwiliad o brosesau eich helpu chi i leihau eich defnydd o ddŵr, eich biliau ynni a’ch effaith ar yr amgylchedd.
Bydd peiriannydd profiadol yn edrych ar eich defnydd o ddŵr ac ynni, ac unrhyw wastraff, er mwyn clustnodi ffyrdd o sicrhau arbedion a darbodaeth ym mhrosesau cynhyrchu a gweithredol eich safle.
Caiff yr archwiliad ei deilwra i adlewyrchu anghenion penodol eich busnes chi; ond bydd rhannau allweddol yr archwiliad yn cynnwys:
Taith o'r safle
Bydd peiriannydd profiadol yn cyflawni archwiliad manwl o'ch prosesau ar y safle, gan glustnodi meysydd o ddefnydd mawr neu wastraff, a chyfleoedd i arbed costau.
Dadansoddi data
Cyflawnir dadansoddiad manwl o ddata'r safle gan gynnwys cynhyrchu, cyfeintiau dŵr ac elifiant, a lle bo hynny'n berthnasol, crynoadau. Byddwn ni'n cymharu data ag unrhyw feincnodau sydd ar gael o fewn y diwydiant hefyd.
Pwyso a mesur
Caiff cydbwysedd safle-eang ei lunio i glustnodi unrhyw golledion, a'r costau sydd ynghlwm wrth bob cydran. Gall hyn eich helpu chi i glustnodi'r prif bethau sy'n bwydo costau eich safle.
Dadansoddiad o gostau a buddion
Dangos cyfnodau ad-dalu a blaenoriaethau'r cyfleoedd a glustnodir ar gyfer arbedion cost yn ôl proffidioldeb.
Argymhellion penodol
Ar sut i wella effeithlonrwydd dŵr, ar ffurf adroddiad ffurfiol. Byddwn ni'n cymharu eich lefelau defnydd â meincnodau o'r diwydiant lle bo'r rheiny ar gael hefyd.
Taflen archwilio prosesau
PDF, 1.3MB
*Dylid nodi y codir tâl am y gwasanaeth hwn - caiff y costau eu cadarnhau ar sail dyfynbris sy'n seiliedig ar ofynion eich busnes.
Sut mae cael rhagor o fanylion
Os oes diddordeb gennych wneud cais neu os oes cwestiynau gennych am y gwasanaeth, neu unrhyw un o'n gwasanaethau eraill, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod neu llenwch ein ffurflen ar lein yma here.
Contact Us
We’d like to understand what our business customers want from us and what we can do to help add value to your business. We welcome any ideas you may have for new products and services. Contact us to find out more about our services.
Take me there