Neidio i’r cynnwys

Cyfnewid Data'n Electronig

Rydyn ni am weithio gyda busnesau mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr bob tro.

Rydyn ni'n cynnig sawl opsiwn bilio gwahanol ar eich cyfer, gyda'r hyblygrwydd i chi ddewis pa un sy'n gweithio orau i'ch busnes chi. Yn ogystal â biliau papur a biliau cyfansawdd, rydyn ni'n cynnig biliau cyfenwid data’n electronig (EDI) hefyd.

Mae EDI yn caniatáu i ddata bilio gael ei anfon yn union o un system gyfrifiadur i'r llall, gan ddileu papur, byrhau amserau prosesu a lleihau'r costau sy'n gysylltiedig â phrosesu â llaw.

Sut gallai hyn fod yn fuddiol i chi?

  • Gall gyflymu eich amserau prosesu
  • Gall gwtogi ar y costau a'r amser sy'n gysylltiedig â phrosesu â llaw
  • Gallwch gyrchu data bilio manwl-gywir yn y fan a'r lle
  • Am ei fod yn dileu'r angen am ddefnyddio papur, mae'n gwella eich statws amgylcheddol hefyd

Pa fath o fusnes allai elwa?

  • Er mwyn manteisio ar EDI, rhaid i chi fod yn gwsmer busnes â 10 neu ragor o safleoedd o fewn ardal weithredol Dŵr Cymru yng Nghymru a Sir Henffordd.
  • Rhaid i chi fod yn gallu derbyn a phrosesu protocol TRADACOMS 26 fersiwn 3
  • Nid yw hyn yn addas i gyfrifon elifiant masnachol
Mae EDI eisoes wedi arbed amser ac arian i'r awdurdod. Fe gynorthwyodd ni i ganfod problem gyda Llyfrgell Bargoed: roedden ni wedi bod yn talu cyfraddau dŵr yfed ac roedd mesurydd gan yr eiddo pan ddylai fod wedi bod yn talu ar sail fformat sefydlog. Fe ddarganfuwyd hyn diolch i gyflwyno EDI, a chawsom ad-daliad yn gyflym. Roedd ymgorffori'r ffeiliau EDI i'n cronfa ddata’n rhwydd, ac mae'r broses gymaint yn gynt na phrosesu anfoneb bapur. Mae hi wedi rhyddhau ein hamser i ganolbwyntio ar feysydd problemus, fel gollyngiadau posibl.

Paul Rossiter | Swyddog Ynni, Dŵr a Chadwraeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Sut i wneud cais

Os oes diddordeb gennym mewn EDI, llenwch y ffurflen gais EDI isod. Neu os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â'n Tîm Bilio Masnachol yn:
edi@dwrcymru.com.

Cwestiynau Cyffredin

EDI Telerau ac Amodau

PDF, 263.6kB