Rheoli cyfrifon
Rydyn ni am ei gwneud hi mor rhwydd â phosibl i chi gysylltu â ni am bob math o resymau, am fod digon ar eich plât
Dyna pam ein bod ni'n darparu gwasanaeth rheoli cyfrifon pwrpasol ar eich cyfer i sicrhau eich bod chi'n cael y gwasanaeth a'r cyngor gorau ar gyfer eich sefydliad.
Mae ein Tîm Gwasanaethau Busnes yma i gynnig gwasanaeth rheoli cyfrifon am ddim i gwsmeriaid busnes — gan weithredu fel yr unig bwynt cyswllt sydd ei hangen arnoch.
Bydd ein tîm gwybodus a phrofiadol yn eich cynorthwyo i reoli dŵr eich ystâd. Dim ots a yw'ch ymholiad yn ymwneud â bilio, gweithrediadau neu'n gwestiwn cyffredinol, os na allwn ni helpu, fe ffeindiwn ni rhywun sydd yn gallu.
Cofiwch ein bod ni'n cynnig cyngor am ddim ar ein porth cymorth a chyngor hefyd.
Sut gallai hyn fod yn fuddiol i chi?
Pa fath o fusnes allai elwa?
- Unrhyw fath o fusnes â sawl safle
- Dim ots beth yw natur eich busnes, boed yn westy neu'n ffatri fawr, os oes sawl safle gennych, yna gallai fod o gymorth i chi fod ag un pwynt cyswllt penodol â ni
Contact Us
We’d like to understand what our business customers want from us and what we can do to help add value to your business. We welcome any ideas you may have for new products and services. Contact us to find out more about our services.
Take me there